- Darllenwch y fersiwn Saesneg
- Darllenwch y fersiwn Gwyddelig

Niwroddelweddu
sgiliau
yn
dementia
Cynyddu ymwybyddiaeth a gwella addysg a hyfforddiant mewn dementia trwy niwroddelweddu yn rhanbarth Iwerddon Cymru
Am NeuroSKILL
Mae’r prosiect NeuroSKILL wedi ei ariannu gan yr UE ac yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng yr Ysgol Feddygaeth yng Ngholeg y Drindod Dulyn, yr Ysgol Feddygaeth a Gwyddor Feddygol yng Ngholeg Prifysgol Dulyn, a’r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n cynnwys datblygu rhaglenni hyfforddiant ar niwroddelweddu mewn dementia, trosglwyddo technoleg, a defnyddio gwybodaeth a geir trwy’r broses dechnegol o niwroddelweddu mewn ffordd fwy hygyrch a defnyddiol.
Mae prosiect NeuroSKILL yn werth €1.7 miliwn ac mae wedi ei ariannu o dan Gynllun INTERREG 4A Iwerddon Cymru ERDF UE.
Bydd NeuroLINK, sydd wedi ei osod o fewn y sector gwyddorau bywyd o fframwaith Cymru ar gyfer adfywio economaidd ac economi SMART Iwerddon, yn cysylltu ymchwil mewn technoleg feddygol â darparu gwasanaethau gan arwain at bartneriaeth ymatebol rhwng academia, y trydydd sector a mentrau preifat.
Cyd-destun Iechyd
Mae NeuroSKILL yn ceisio ehangu a dyfnhau’r sylfaen sgiliau o fewn y rhanbarthau gydag ymyriadau hyfforddiant wedi eu targedu a thechnoleg newydd o ran darparu gwybodaeth.
Yn Iwerddon, mae 44,000 o bobl yn byw gyda dementia ac yng Ngogledd Cymru mae 12,000 arall yn dioddef ohono, a gyda phoblogaeth sy’n heneiddio bydd y duedd hon yn cynyddu.
Mae angen mwy o gymorth ar unigolion a sefydliadau sy’n cefnogi anghenion pobl hŷn i adnabod y rhai sydd mewn risg ar hyn o bryd a pharatoi ar gyfer y dyfodol.
Mae angen cynyddol am hyfforddiant ymysg staff arbenigol, a thrwy gydweithredu rhwng academia, y trydydd sector a mentrau preifat, bydd NeuroSKILL yn diwallu’r angen hwnnw mewn ffordd arloesol yn seiliedig ar hyfforddiant wedi ei dargedu.
Mae NeuroSKILL yn brosiect arloesol sy’n defnyddio ymchwil academaidd i bwrpas anghenion busnes y dyfodol.